
Green Truck Studios
Stiwdio gynhyrchu fideo a sain wedi’i lleoli mewn cyn-dryc syrcas ym mynyddoedd Gogledd Cymru
Helpu Artistiaid i greu cynnwys ar-lein proffesiynol
Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Greeen Truck Studios yn ystafell olygu fideo a sain broffesiynol sy’n cael ei rhedeg gan beiriannydd sain profiadol a chynhyrchydd theatr, gan greu modd fforddiadwy ar gyfer perfformwyr heddiw i greu cynnwys ar-lein pwrpasol, proffesiynol a hygyrch.
Cadw Cymunedau cerddorol gyda’i gilydd
Yn ystod 2020, rydym wedi helpu i gadw cymunedau cerddorol gyda’i gilydd, ar adeg pan na allwn ni gwrdd â’n gilydd yn gorfforol. Rydym wedi helpu corau i greu fideos grŵp, cwmnïau theatr i gyflwyno drama ar-lein ac rydym wedi helpu teuluoedd i anfon cyfarchion at ei gilydd ar gyfer achlysuron arbennig. Darganfyddwch fwy am ein corau rhithwir a sut y gallwn ni helpu eich grŵp chi i greu atgofion a fydd yn parhau am oes.
Gwen
Mae Gwen yn gynhyrchydd theatr, peiriannydd sain a pherfformwraig brofiadol. Dechreuodd ei gyrfa yn RADA a bu’n gweithio yn y Royal Exchange Theatre ym Manceinion a Scottish Television. Aeth ymlaen i ddilyn gyrfa amrywiol a chyffrous dros ben, gan ymgorffori ei sgiliau technegol gyda’i chariad am y theatr, y syrcas a cherddoriaeth.
Y Stiwdio
Ystafell recordio a golygu fideo cwbl broffesiynol yw Green Truck Studios, wedi’i lleoli yn barhaol yn awr mewn cyn-dryc syrcas ym mynyddoedd prydferth Gogledd Cymru. Drwy ddefnyddio meddalwedd o’r radd flaenaf – creu’r prif gopi sain ar Logic a golygu fideo ar Premier Pro – mae’r stiwdio yn rhedeg yn gyfan gwbl oddi ar y grid o baneli solar ar y to a banc batri sydd wedi’i osod yn dwt yn y gist.